CAW91 Cyngor Gwynedd

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Sefydliad: Cyngor Gwynedd

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Ydw

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

Rydym yn gwbl gefnogol i’r egwyddorion a’r cyfeiriad yr amlinellir yn ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ ac yn frwd parthed y cyfleoedd y bydd ein cwricwlwm arloesol, creadigol a seiliedig Gymraeg a Chymreig  yn eu roi i’n dysgwyr.

O safbwynt eithriadau ynghylch gofynon yn y cwricwlwm, yng nghyd-destun darpariaethau EOTAS, cytunwn gyda'r pwyslais ar iechyd a lles, ond dylai darparu gofynion y cwriwcwlwm yn ehanagch na hynny fod ar sail yr hyn yw pwrpas canolfannau unigol ac mewn ymateb i anghenion pob dysgwr yn unigol. Nid yw'r geiriad yn y cyd-destun yma'n ddigon eglur a phenodol ar hyn o bryd.

Yn ychwanegol, awgrymwn y dylai holl ddarpariaethau EOTAS  fod ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg yn unol â’r disgwyliad ar yr Awdurdod i ddarparu yn unol â dewis iaith rhieni (ar wahân i siroedd megis Gwynedd a Môn ble sicrheir fod yr holl ddarpariaeth ar gael yn ddwyieithog beth bynnag). At hyn, awgrymir y dylai holl ddarpariaethau EOTAS hyrwyddo’r diwylliant Cymreig fel rhan o hyrwyddo lles y dysgwyr ac ymdeimlad o berthyn.

1.3         A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Yn sicr mae angen deddfwriaeth er mwyn galluogi cwricwlwm penodol i Gymru, a gweithredu gweledigaeth ac athroniaeth yr Athro Donaldson yn effeithiol.

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Rhaid cydnabod fod y byd wedi newid yn syfrdanol yn 2020 gyda dyfodiad COVID-19 fel pandemig byd-eang. Mae COVID wedi cael effaith syfrdanol ac affwysol ar y gyfundrefn ysgolion ers 20 Mawrth 2020, ac mae’r gweithlu addysg wedi bod dan bwysau sylweddol dros y cyfnod wrth i ysgolion ail-bwrpasu i ddarparu gofal i blant gweithwyr allweddol, darparu addysg o bell, paratoi i ail-agor yn rhannol gan ddarparu addysg cyfunol, ynghyd â pharatoi i ail-agor i’r holl ddysgwyr erbyn 14 Medi 2020.

Wrth ail-agor i’r holl ddysgwyr, mae ysgolion yn raddol ddod yn ymwybodol o faint y gagendor addysgol, a beth yw effaith gwirioneddol y cyfnod clo ar gyrhaeddiad addysgol dysgwyr. O ganlyniad, mae ffocws llwyr yr ysgolion ar hyn o bryd ar sicrhau lles dysgwyr, eu parodrwydd i ddysgu, a dal i fyny, ynghyd â iechyd a lles eu staff. 

Yn ychwanegol, mae aneglurder ynglŷn a sefyllfa arholiadau allanol i ddysgwyr CA4 a CA5 haf 2021 yn golygu bod sylw’r ysgolion uwchradd yn sicr ar gwblhau manylebau TGAU, UG a SU cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y cyfle gorau posibl i’w dysgwyr ennill cymwysterau haeddiannol yr haf nesaf. Er hyn, er tegwch i’r ysgolion a’r dysgwyr, mae angen eglurder rhagblaen ar y disgwyliadau ar gyfer cymwysterau allanol dysgwyr yn haf 2021.  

O ystyried effaith COVID-19 ar ysgolion, eu staff a’u dysgwyr, mae angen ystyried o ddifri priodoldeb parhau gyda’r amserlen o gyflwyno’r cwricwlwm newydd o Fedi 2022 yn yr ysgol gynradd, ac ym Mlwyddyn 7 i ddechrau, gan ymestyn i grwpiau blwyddyn dilynol wrth i ddisgyblion uwchradd symud ymlaen drwy’r ysgol nes iddynt gyrraedd Blwyddyn 11 yn 2026-27.

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Nodir fod y Gweinidog Addysg Kirsty Williams AS wedi datgan nad yw’r amserlen ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd wedi newid er gwaethaf pandemig COVID-19, a’i effaith affwysol ar ein hysgolion ar hyn o bryd. O ganlyniad, nid wyf yn credu fod ystyriaeth digonol wedi ei roi i barhad amserlen gyfredol y Bil yn sgil COVID-19.

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Croesewir y ffaith fod Bil y Cwricwlwm yn sefydlu continwwm dysgu unigol o ddysgu Cymraeg ym mhob ysgol, gan ddisodli’r gwahaniaeth cyfredol rhwng Cymraeg iaith gyntaf (a addysgir yn bennaf mewn ysgolion Cymraeg a dwyieithog) a Chymraeg ail iaith. Arwain hyn at ofynion cyffelyb ar bob ysgol i ddysgu Cymraeg, beth bynnag fo eu cyfrwng addysgu sydd i’w groesawu’n fawr. Fodd bynnag, heb eglurder o hyd a lled y continwwm o ddysgu Cymraeg, nid oes sicrwydd ei fod yn cyfarch y pryderon cyfredol am y ddarpariaeth ail iaith, gan fod yn gyfrwng i arwain at gynnydd gwirioneddol yn nifer y dysgwyr sydd yn llwyddo i gaffael y Gymraeg a dod yn siaradwyr yn unol â gweledigaeth Cymraeg 2050.

Mae’r Bil yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn wahanol. Nodir, er y bydd Saesneg, fel y Gymraeg yn orfodol o ddechrau’r cwricwlwm yn 3 oed, bydd gofyn i ysgolion Cymraeg a dwyieithog ddatgymhwyso’r gofyniad i ddysgu Saesneg hyd at 7 oed. Golyga hyn mai mympwy penaethiaid a chyrff llywodraethu unigol fydd yn gyfrifol am y penderfyniad i gynnal y broses o drochi’r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen ai peidio. Mae hyn yn tanseilio’n llwyr Polisi Iaith Addysg Gwynedd sydd wedi sicrhau cysondeb ac unffurfiaeth yn y ddarpariaeth ar draws y sir, gan sicrhau yr un cyfle i bob plentyn gaffael y Gymraeg drwy addysg drochi, a dod yn hyfedr ddwyieithog maes o law. Mae’n tynnu grym yn llwyr oddi wrth Awdurdodau Lleol sydd â pholisi iaith sirol cyson yn weithredol ar draws y gyfundrefn ysgolion.

Mae’r pryder hwn eisoes wedi ei leisio, ac mae’r ymateb a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn arddangos diffyg dealltwriaeth sylfaenol o effaith a dylanwad uniongyrchol datgymhwyso ai peidio ar gyfrwng iaith yr addysgu yn yr ysgol, ac nad mater cwricwlwm i’w benderfynu ar lefel ysgol unigol ydyw. Nid elfennau ar wahân yw trochi yn y Gymraeg, cyfrwng addysgu a chwricwlwm.

Canlyniad anfwriadol (posib) yn deillio o’r Bil yw y gallai ysgolion sydd ar hyn o bryd yn darparu addysg drochi hyd at 7 oed, beidio datgymhwyso’r elfen Saesneg. Mae’n galluogi newid polisi drwy’r drws cefn. Gallai hyn effeithio ar bolisi a chyfrwng iaith yr addysgu ar lefel ysgol unigol, ar allu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg Awdurdodau i gyflawni eu targedau, ynghyd â gwireddu dyheadau Llywodraeth Cymru yn Cymraeg 2050.

Mae’r ymgynghoriad ‘ysgafn’ a gynhaliwyd ar ‘Ddynodi cyfrwng iaith ysgolion’ yn nodi’n glir na ellir diffinio ysgol fel un Cyfrwng Cymraeg heb drochi yn y Cyfnod Sylfaen. Mae tair elfen bolisi allweddol, sef Cymraeg 2050, CSCAau a Dynodi Cyfrwng Iaith Ysgolion wedi'u halinio'n synhwyrol ac yn strategol. Mae’n rhaid i’r Bil Cwricwlwm ddilyn yr un llwybr, neu bydd y risgiau gwirioneddol a amlinellir uchod yn cael effaith negyddol sylweddol ar gyfeiriad cyfan Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu Cymru fel cenedl ddwyieithog.

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Dim sylwadau.

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

Dim sylwadau.

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

Cytunwn yn llwyr ag egwyddor y cwricwlwm newydd; sef y dylai cynnwys y cwricwlwm fod wedi ei arwain yn lleol gan yr ysgolion. Fodd bynnag, mae’n hanfodol sicrhau fod y cwricwlwm arfaethedig yn dynodi’r gofyn sylfaenol i bob ysgol gynllunio’n briodol gan roi lle creiddiol a chanolog i Hanes Cymru fel rhan o’u darpariaeth. Heb ddiffinio’r disgwyliad hwn yn gwbl eglur yn y cwricwlwm, byddwn eto’n gweld cenedlaethau o blant a phobl ifanc yn cael eu hamddifadu o hanes cenedlaethol a lleol Cymru fyddai’n fodd o’u meithrin a’u grymuso i fod yn ddinasyddion cyflawn, gydag ymdeimlad o berthyn i gymuned a gwlad.